Swydd yr aelod sy'n fyfyriwrSwydd y myfyriwr sy'n eistedd fel aelod annibynnol ar y Bwrdd Cyfarwyddwyr a chyd-gadeirio'r Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Strategaeth.Cyfarfodydd yn Llundain / ledled y DU / ar-leinDi-dâlQAA yw'r corff annibynnol o arbenigwyr sy'n diogelu ansawdd a safonau addysg uwch ac addysg bellach y DU, lle bynnag y mae'n cael ei darparu ledled y byd. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau a darparwyr eraill ymhob rhan o'r sector i sicrhau bod y myfyrwyr ymhob maes astudio'n cael addysg o ansawdd da y gallent ymddiried ynddi.Mae'r myfyrwyr yn cymryd rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau a gwella ansawdd, am mai nhw yw'r arbenigwyr sydd â phrofiad go iawn ym maes addysg. O roi lleisiau allweddol ac arweinyddiaeth yn y sector i'r myfyrwyr eu hunain, gallant esbonio a hyrwyddo'r hyn sy'n gweithio a sut y dylai addysg edrych, yn awr ac yn y dyfodol.Fel aelod o'r bwrdd, byddwch yn dod â safbwynt unigryw a hanfodol bwysig i'r bwrdd, drwy ofyn cwestiynau, herio tybiaethau, a helpu i lywio cyfeiriad strategol QAA. Rydym yn awyddus i glywed gan fyfyrwyr a fyddai'n dymuno bod yn llysgenhadon cadarn i QAA ac arwain y sefydliad mewn cyfnodau o newid a chyfle. Wrth weithio fel aelod o'r Bwrdd, bydd yr aelod sy'n fyfyriwr yn chwilfrydig, yn gallu cyfathrebu'n dda, ac yn barod i rannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd.Nodwch nad yw'n ofynnol bod gennych chi brofiad blaenorol o weithio fel aelod o fwrdd.Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y swydd ddeuol hon fe fyddwch chi, ar adeg eich penodi:yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig cofrestredig ar gwrs sy'n arwain at ddyfarniad gan sefydliad addysg uwch, neu;yn swyddog myfyrwyr etholedig undeb myfyrwyr; neuyn swyddog corff cynrychioli myfyrwyr a etholwyd o blith y myfyrwyr.Mae'r pecynnau penodi isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth.Cliciwch yma am y pecyn penodiadI drafod y swydd ddeuol hon a'r broses ymgeisio'n gyfrinachol, mae croeso i chi gysylltu â Tom Yates (Ysgrifennydd y Cwmni) neu Florence McKenzie (Swyddog Cefnogaeth Lywodraethol) drwy anfon e-bost at governance@qaa.ac.uk.I wneud cais, mae angen i chi greu proffil ar ein porth recriwtio a chyflwyno eich CV gyda llythyr eglurhaol sy'n amlinellu sut yr ydych yn ateb manyleb y person. Dim ond ceisiadau sy'n cynnwys CV a llythyr eglurhaol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rôl.Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 22 Medi 2026 am 5pm. Bydd y cyfweliadau terfynol wedi eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 5 Hydref 2026.Mae QAA yn cydnabod manteision cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo'u hunaniaeth neu gefndir, a’u bod yn gallu rhoi o'u gorau. Rydym yn gosod gwerth ar y gwahaniaethau y mae amrywioldeb o ran cefndir, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig, ac yn annog ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas i ymgeisio ac ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd i bob ymgeisydd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan yn y broses recriwtio, cysylltwch â governance@qaa.ac.uk. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb i ddeall pa addasiadau sydd eu hangen i sicrhau proses deg a hygyrch.
If you are seeing this message it may be an redirection error,
please contact our support with this code:
Q0NCb3QvMi4wIChodHRwczovL2NvbW1vbmNyYXdsLm9yZy9mYXEvKQ==