Aelod ARLC o blith Cyflogwyr

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yn chwilio am Gynrychiolydd Cyflogwyr i ymuno â'u Pwyllgor Rheoleiddio a Thrwyddedu Mynediad (ARLC), sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio Cydnabyddiaeth ar gyfer Mynediad i AU a chynghori'r Bwrdd ar risg reoleiddiol a datblygiadau sylweddol. Trwy’r gwaith hwn, mae’r Pwyllgor yn helpu i sicrhau bod y Diploma Mynediad i AU yn parhau i fod yn llwybr o ansawdd uchel, credadwy a chynaliadwy i addysg uwch ar gyfer ddysgwyr sy’n oedolion.https://www.qaa.ac.uk/cy/mynediad-i-au/adnoddau-yn-ymwneud--acirc--mynediad-i-auRydym yn chwilio am unigolyn a all ddod â dealltwriaeth eang o anghenion y gweithlu presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg, yn ogystal â mynegi safbwyntiau cyflogwyr ar oedolion sy'n dychwelyd i addysg ac yn symud ymlaen i addysg uwch.Llundain / Cenedlaethol / Ar-leinDi-dâlQAA yw'r corff annibynnol o arbenigwyr sy'n diogelu ansawdd a safonau addysg uwch ac addysg bellach y DU, lle bynnag y mae'n cael ei darparu ledled y byd. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau a darparwyr eraill ymhob rhan o'r sector i sicrhau bod y myfyrwyr ymhob maes astudio'n cael addysg o ansawdd da y gallent ymddiried ynddi.Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad o ddylanwadu ar bolisi sgiliau, y gweithlu, cyflogadwyedd neu addysg trwy gyrff cynrychioli cyflogwyr, sefydliadau proffesiynol, partneriaethau sector, siambrau masnach, strwythurau sgiliau rhanbarthol neu rwydweithiau tebyg. Mae profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch a chyfrannu at wneud penderfyniadau strategol yn hanfodol.Mae hwn yn gyfle i helpu â llunio cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n cynorthwyo dros 25,000 o oedolion bob blwyddyn i symud ymlaen i addysg uwch a gyrfaoedd ar lefel gradd, gan sicrhau bod y cymhwyster hwnnw’n parhau i fod yn berthnasol i anghenion cyflogwyr a'r gweithlu.Mae aelodau ARLC yn cyfrannu at drafodaethau ar gynnydd a llwyddiant myfyrwyr, blaenoriaethau'r gweithlu a sgiliau, datblygu cymwysterau, a rôl Mynediad i AU yn y dyfodol o fewn tirwedd polisi addysg a sgiliau sy'n newidMae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion a all fynegi anghenion cyflogwyr y tu hwnt i'w sefydliad eu hunain a dod â safbwyntiau sydd wedi'u llywio gan rwydweithiau cyflogwyr, cyrff cynrychioli, cymdeithasau proffesiynol neu bartneriaeth strategol.I fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon, byddwch ar adeg eich penodiad yn:Arweinydd o fewn cyflogwr â chysylltiadau da sydd â dealltwriaeth eang o anghenion y gweithlu, y galw am sgiliau a datblygu talent.Meddu ar brofiad o weithio gyda chyflogwyr, llunwyr polisi neu gyrff cynrychioli i ddylanwadu ar flaenoriaethau sgiliau a datblygu'r gweithlu.Meddu ar brofiad o ddylanwadu ar bolisi sgiliau, y gweithlu neu addysg a throsi blaenoriaethau cyflogwyr yn drafodaethau ynghylch cymwysterau a chyflogadwyedd.Mae'r pecynnau recriwtio isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth.Cliciwch yma am y pecyn recriwtioAm drafodaeth gyfrinachol ynghylch y rôl hon, cysylltwch â Jennifer Allen, Pennaeth Rheoleiddio Mynediad i AU neu Debra Macfarlane, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheoleiddio, ar ahe@qaa.ac.uk.I wneud cais, mae angen i chi greu proffil ar ein porth recriwtio a chyflwyno eich CV gyda llythyr ategol sy'n amlinellu sut yr ydych yn ateb manyleb y person. Dim ond ceisiadau sy'n cynnwys CV a llythyr ategol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rôl.Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 20fed Medi 2026 am 23:59. Cynhelir y cyfweliadau terfynol ar-lein yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 28ain Medi 2026.Mae QAA yn cydnabod manteision cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo'u hunaniaeth neu gefndir, a’u bod yn gallu rhoi o'u gorau. Rydym yn gosod gwerth ar y gwahaniaethau y mae amrywioldeb o ran cefndir, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig, ac yn annog ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas i ymgeisio ac ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd i bob ymgeisydd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan yn y broses recriwtio, cysylltwch â ahe@qaa.ac.uk. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb i ddeall pa addasiadau sydd eu hangen i sicrhau proses deg a hygyrch. 




If you are seeing this message it may be an redirection error, please contact our support with this code: Q0NCb3QvMi4wIChodHRwczovL2NvbW1vbmNyYXdsLm9yZy9mYXEvKQ==